Gwybodaeth am amseroedd aros ysbytai
Dylid defnyddio’r wybodaeth hon fel canllaw yn unig. Nid yw’r data’n gallu dweud wrthych ble rydych chi ar y rhestr aros. Y nod yw eich helpu i ddeall yn well pa mor hir y mae pobl yn eich Bwrdd Iechyd Lleol yn aros. Mae’n bwysig cadw mewn cof:
- Mae pawb yn unigolion ac mae eich gofal yn cael ei reoli ar sail eich brys clinigol.
- Bydd yr amser aros yn llai i gleifion sydd ag anghenion clinigol mwy brys.
- Mae yna dargedau amseroedd aros cenedlaethol. Bydd yr amseroedd aros yn wahanol yn ôl arbenigedd a lleoliad ac mae’r GIG yn gweithio i wella’r rhain dros amser.
Mae’n bwysig eich bod yn cael eich cefnogi i gadw eich hun yn iach tra byddwch yn aros. Gallwch ymweld â’r tudalennau Byw’n Dda a Gwyddoniadur ar y wefan hon. Efallai y bydd rhagor o wybodaeth a chymorth ar gael ar wefan eich Bwrdd Iechyd Lleol.
Nid yw’r wybodaeth am amseroedd aros yn ddata byw, ond yn hytrach mae’n seiliedig ar giplun diwedd y mis. Ni fydd gwybodaeth ar gael am arbenigeddau sydd â llai na 200 o lwybrau cleifion.